CYFLWYNWCH EICH SAFBWYNTIAU TRWY GLICIO YMA.
Yn dilyn lefel gynyddol o bryder lleol, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi cyhoeddi lansiad arolwg ar-lein i gael gwell syniad o bryderon diogelwch ffyrdd mewn perthynas â chefnffordd yr A470.
Mae Mrs Finch-Saunders wedi derbyn ymrwymiad blaenorol gan Lywodraeth Cymru y byddai adolygiad o’r A470 o Lan Conwy i Fetws-y-coed yn digwydd yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Wrth dderbyn yr ymatebion wedi’u diweddaru, mae Janet yn gobeithio y bydd yr arolwg yn helpu i dynnu sylw swyddogion at y rhannau sy’n peri pryder. Gall preswylwyr gyflwyno eu pryderon yn www.janetfinchsaunders.org.uk/A470
Yn rhoi sylwadau ar lansio’r arolwg, dywedodd Janet:
“Yn dilyn ymyriadau pellach y llynedd, roeddwn i’n falch o groesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn fodlon ystyried gwelliannau i’r gefnffordd i hwyluso datrysiadau diogelwch ffyrdd.
“Er fy mod wedi cadw mewn cysylltiad â’r Awdurdod Lleol mewn ymdrech i weld cynigion diogelwch yn cael eu datblygu ar gyfer ardaloedd fel Pont Fawr a Phentre Felin, ymrwymais i gadw llygad barcud ar yr addewid a wnaed yn ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog i adolygu’r A470 o Lan Conwy i Fetws-y-Coed.
“I hwyluso’r gwaith hwn, a gyda’r flwyddyn ariannol nesaf yn prysur agosáu, rwy’n falch o lansio arolwg ar-lein newydd. Bydd ymatebion iddo yn tynnu sylw swyddogion at y rhannau sy’n peri pryder, gan sicrhau bod y gwelliannau a awgrymir yn dod i sylw Llywodraeth Cymru.
“Gallaf sicrhau preswylwyr lleol y byddaf yn dal ati i graffu ar waith y Dirprwy Weinidog gyda’r ymatebion a ddaw i’r arolwg, os na fydd yr adolygiad hwn y rhoddwyd addewid i’w gyflawni yn 2022/23 yn dwyn ffrwyth.”
DIWEDD
Ffoto: Ffordd Dolwyddelan