Mewn cwestiwn hynod amserol i’r Prif Weinidog, mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi erfyn ar y Llywodraeth ddatganoledig i adolygu rheolau cymhwystra cymorth cyllid busnes ar gyfer perchnogion llety hunanddarpar, ynghyd ag ystyried cynyddu’r cyllid sydd ar gael i helpu i achub swyddi.
Yn rhoi sylwadau ar ei chwestiwn, dywedodd Janet:
“Ar ôl ymgysylltu’n frwd â busnesau lleol drwy’r cyfyngiadau mwyaf diweddar, rwy’n gwybod bod un o fy etholwyr sydd â busnes lletygarwch wedi gwneud colled o £60,000 o ganlyniad uniongyrchol i gyfyngiadau ac archebion yn cael eu canslo.
“Yr wythnos diwethaf, bu’n rhaid i’r busnes dan sylw gael gwared ar wyth aelod o staff. Mae’r dystiolaeth o Aberconwy yn profi nad yw cymorth grant Llywodraeth Cymru yn ddigon a’i fod yn dod yn rhy hwyr. Yn wir, wrth bori drwy’r meini prawf cymhwystra ymhellach, rydym yn gwybod bod llawer o fusnesau lleol yn cael eu heithrio.
“Mae llawer o berchnogion llety hunanddarpar wedi cysylltu â fy swyddfa mewn anobaith gan nad ydynt yn gallu cael cymorth ariannol, er eu bod wedi colli archebion gwerth miloedd. Mae’n gwbl annheg bod Llywodraeth Cymru wedi creu rheol hurt bod yn rhaid i eiddo hunanddarpar fod ar gyfer 30 o bobl neu fwy.
“Dyna pam fy mod wedi cwestiynu’r Prif Weinidog heddiw, gan erfyn ar ei weinyddiaeth i weithredu ar y materion y gellid eu hosgoi drwy newid y rheolau cymhwystra ar gyfer perchnogion llety hunanddarpar, ynghyd ag ystyried cynyddu’r cyllid sydd ar gael i helpu i achub y sector a swyddi.
DIWEDD
Ffoto: Traeth y Gogledd Llandudno