Mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi cyflwyno gwrthwynebiad ffurfiol i’r cynlluniau diwygiedig ar gyfer y datblygiad arfaethedig ar Heol Nant y Gamar/ Caeau Bodafon.
Ei llythyr yw’r cam diweddaraf yn yr ymgyrch sydd wedi gweld yr Aelod yn cyflwyno llythyr arall o wrthwynebiad ac yn ymgynnull cyfarfod cyhoeddus i gynnig cyfle gwerthfawr i drigolion a rhanddeiliaid lleol roi cwestiynau gerbron y rhai sydd wrth wraidd y datblygiad.
Yn rhoi sylwadau ar ei llythyr o wrthwynebiad, dywedodd Janet:
“Rwy’n annog aelod Pwyllgor Cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i sefyll yn gadarn gyda’r nifer sylweddol o gynrychiolwyr etholedig Llandudno – o Gyngor y Dref i’r Senedd – sydd yn erbyn y cynllun.
“Mae fy llythyr pellgyrhaeddol wedi amlinellu nifer o resymau polisi cynllunio y gallai’r Pwyllgor eu defnyddio er mwyn gwrthod y cais.
“Mae’n siom enfawr i mi ei bod yn ymddangos o e-bost dyddiedig 16 Medi 2021 bod yr Awdurdod Lleol wedi derbyn bod cymysgedd y farchnad yn dderbyniol. I fod yn glir, mae’r gymysgedd o dai yn annerbyniol. Mae’n gwrthdaro â’r Asesiad Marchnad Dai Leol ac nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth glir yn dangos bod amgylchiadau lleol Llandudno yn awgrymu y byddai’r diwygiad yn diwallu anghenion lleol yn well.
“Wrth ystyried bod yn rhaid i ni gyd gymryd camau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, roedd hi’n sioc fawr i mi ddarllen nad oes mannau gwefru cerbydau trydan yn cael eu darparu ar y stad.
“Yn bwysig iawn, mae ymateb allweddol wedi’i gyflwyno gan y Swyddog Datblygu Chwarae, sydd wedi codi pryderon rhesymol iawn am Heol Nant-y-Gamar. Fel y nododd y swyddog yn gywir, ar adegau gollwng a chasglu disgyblion ysgol, gall yr ardal fod yn le anodd iawn i blant a phobl ifanc, a dylid darparu croesfan draffig gynaliadwy a llwybrau er mwyn galluogi preswylwyr i symud o gwmpas y ffyrdd yn Nant-y-Gamar a Bodafon yn ddiogel.
“Mae’r datblygiad hwn wedi’i leoli y tu ôl i Ysgol y Gogarth a Llys Gogarth. Ni ddylai’r Awdurdod Lleol ganiatáu creu datblygiad a allai gael effaith niweidiol ar blant a phobl ifanc agored i niwed.”
DIWEDD