A hithau’n ymgyrchydd penderfynol ac ymroddedig sydd wedi bod yn pwyso am fynd i’r afael ag amseroedd aros mewn gwasanaethau canser a diagnostig, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi sicrhau eglurder gan Lywodraeth Cymru ynghylch y camau sy’n cael eu cymryd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sefydlu canolfannau diagnosis cyflym yn y Gogledd.
Mewn ymateb i Gwestiwn Ysgrifenedig, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai tair canolfan ddiagnostig gyflym yn cael eu hagor yn y rhanbarth yn gynnar yn 2022, a bod y Bwrdd Iechyd yn recriwtio’r staff gofynnol ar hyn o bryd. Meddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Mater i’r Bwrdd Iechyd yw pennu ble a sut i leoli canolfannau er mwyn diwallu anghenion ei boblogaeth leol. Mae’n rhaid i’r Bwrdd Iechyd ystyried hefyd sut i wneud hyn law yn llaw â darparu llwybrau safonol o ofal canser ac mae’n rhaid parhau i fodloni’r galw am wasanaethau nad ydynt yn wasanaethau canser gyda’r adnoddau sydd ar gael.
Mae tystiolaeth bod canolfannau diagnosis cyflym yn cael effaith arwyddocaol ar amseroedd aros diagnostig, gyda’r rhaglen beilot yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cwtogi amseroedd aros hyd at 92% yn ei flwyddyn gyntaf.
Wrth sôn am yr eglurder, dywedodd Janet:
“Rwyf wedi bod yn galw ers sawl blwyddyn am rwydwaith o ganolfannau diagnostig cyflyn i gyflynu canlyniadau profion ac atal apwyntiadau dilynol mewn ysbytai. Bydd y canolfannau hyn yn cynyddu capasiti ein Bwrdd Iechyd, gan helpu i achub bywydau drwy sicrhau ein bod yn cau’r bwlch rhwng diagnosis a chael triniaeth briodol.
“Rydym yn gwybod bod diagnosis a thriniaeth gynnar y allweddol i frwydro yn erbyn y clefydau hyn. Fodd bynnag, datgelodd ymchwil ddiweddar gan Gymorth Canser Macmillan bod un o bob pump a gafodd ddiagnosis canser yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf heb gael cymorth nyrsio canser arbenigol yn ystod eu diagnosis neu driniaeth.
“Er fy mod yn falch o dderbyn y cadarnhad hwn am ymgyrch recriwtio, mae’n rhaid i unrhyw ganolfan diagnosis cyflym sicrhau hefyd bod y staff iawn ganddynt i gefnogi pobl o’r adeg maent yn cael diagnosis gydag unrhyw bryderon a all fod ganddynt. Gyda hyn mewn golwg, byddaf yn dal ati o ofyn am fwy o fanylion am yr amserlen a chynlluniau cefnogaeth.”
Mewn newyddion cysylltiedig, yr wythnos diwethaf, cafodd yr Aelod gyfarfod â Grŵp Gweithredu Ysbyty Llandudno fel rhan o’i hymgyrch barhaus i gynnal ac adfer y gwasanaethau a gynigir yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno. Yn ystod y cyfarfod, cytunwyd y dylai’r Bwrdd Iechyd ystyried cynnal gwaith cynllunio strategol hirdymor ychwanegol i ddeall pa staff fydd eu hangen arnynt ymhen blwyddyn.
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS