Mewn galwad ar Lywodraeth Cymru, mae Janet Finch-Saunders, yr AS dros Aberconwy, wedi annog Gweinidogion Cymru i ddefnyddio'r flwyddyn newydd i fanteisio ar brofiad y sector preifat i fynd i'r afael â materion polisi hirsefydlog sy'n ymwneud â darparu cyfleoedd gwaith a thai.
Yn ddynes fusnes brofiadol a sefydlodd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Siopau Bach, cyfeiriodd Janet at enillwyr gwobrau 'Go North Wales' yn ddiweddar fel enghraifft o'r profiad a'r dalent y dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu’n well â nhw.
Ymhlith llwyddiannau'r noson yr oedd Mr Glenn Evans, Rheolwr Cyffredinol Gwesty'r Royal Oak, Betws-y-Coed, a enillodd y categori Arwr Twristiaeth a Lletygarwch. Yn yr un modd, dyfarnwyd 'gwobr 30 mlynedd' i Dr Shyam Patiar, a fu'n Gyfarwyddwr Lletygarwch ac Arlwyo Coleg Llandrillo am flynyddoedd lawer, i gydnabod ei gyfraniad aruthrol i faes hyfforddi pobl ifanc.
Gan dynnu sylw at yr angen am ffordd newydd o weithredu, meddai Janet:
“Mae'r modd y mae sector preifat Cymru wedi llwyddo i bontio her y pandemig yn arwydd o’u gwydnwch, eu dyfeisgarwch a'u hoptimistiaeth. Wrth gydnabod heriau'r flwyddyn newydd hon, gan gynnwys darparu cyfleoedd gwaith hirdymor a thai gwell, rwy'n grediniol y dylai Llywodraeth Cymru weithio'n agosach gyda'r unigolion dawnus hyn.
“Pan ystyriwch ansawdd gwych y gwasanaeth a ddarperir gan ein busnesau lletygarwch a bod eu rheolwyr profiadol wedi pontio'r newid diweddar mewn arferion defnyddwyr mewn modd sydd wedi cadw preswylwyr mewn gwaith, mae'n amlwg y byddai dyblygu'r dyfalbarhad a'r dycnwch hwn o fudd i'r amgylchedd polisi datganoledig.
“Mae'n fendith cael cymysgedd bywiog o fentrau yn y sector preifat, o winllan i stondinau llysiau, o siopau crefft i gaffis, o fwytai i dafarndai, o lety i dwristiaid i ddarparwyr gweithgareddau antur, a llawer mwy. Gwn hefyd fod y llwyddiannau hyn yn cael eu hailadrodd ar draws etholaethau Cymru.
“Gyda hyn mewn golwg, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i addunedu i weithio'n agosach gyda phrofiad, gwybodaeth ac adnoddau'r sector preifat."
DIWEDD
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS gyda busnesau’r fro