Mae Janet Finch-Saunders AS, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi siarad am ei phryder ar ôl y datgeliad gan Sefydliad Ymchwil Morloi Gogledd Cymru bod hyd at 80% o’r morloi y maent yn eu hachub mewn trafferth am resymau nad ydynt yn feddygol, ond oherwydd bod pobl wedi tarfu arnyn nhw.
Mewn Cwestiwn Ysgrifenedig i’r Gweinidog Newid Hinsawdd, gofynnodd Janet:
Yn sgil canfyddiad Sefydliad Ymchwil Morloi Gogledd Cymru, pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi’u cynnal i bennu a oes angen cyfreithiau mwy llym i fynd i’r afael â phobl a chŵn sy’n tarfu ar forloi?
Daw’r ymyriad tra bod oddeutu 200 o forloi ar y traeth yn Nhrwyn y Fuwch, Llandudno, wrth i’r tymor bridio ddechrau. Mae fideos sydd wedi’u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos pobl yn mynd yn rhy agos at y morloi.
Wrth sôn am y sefyllfa, dywedodd Janet:
“Ers 2016 rwyf wedi bod wrthi’n rhagweithiol yn diogelu ein cytref morloi lleol. Rydym yn lwcus iawn bod gennym gytref mor fawr o forloi llwyd a harbwr yn gorffwys yma. Maent yn cyfrannu at ein hamgylchedd unigryw, ac wedi dod n atyniadau poblogaidd ymhlith pobl leol ac ymwelwyr, sy’n cadw pellter diogel.
“Gall tarfu ar forloi sbarduno rhuthr drwy ddychryn eraill a chreu effaith domino, yn aml yn arwain at friwiau diangen ar eu boliau neu rwygo eu crafangau ar y creigiau. I osgoi panig fel hyn, mae’n rhaid i ni gyd gofio cadw pellter o 100 metr o forloi allan o’r dŵr ac yn magu rhai bach.
“Ar ôl helpu i lunio cod ymddygiad lleol yn y blynyddoedd diwethaf, rwy’n parhau i gredu mai addysg yw’r ffordd ymlaen. O ystyried y gellir cosbi perchnogion cŵn o dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991, mae negeseuon diweddar ar y cyfryngau cymdeithasol wedi tynnu sylw at yr angen i adolygu’r sefyllfa i ddeall a yw’r pwerau hyn yn cael eu gorfodi’n ddigonol.
“Fel hyrwyddwr rhywogaethau llamhidyddion Cyswllt Amgylchedd Cymru, rwy’n arwain ymdrechion i gael Llywodraeth Cymru i werthuso effaith cymdeithas fodern ar y rhywogaethau. Dylai data arwain ymyriadau, felly byddwn am weld yr un dull yn cael ei roi ar waith gyda’n morloi.”
Yn ystod y Senedd flaenorol, arweiniodd Janet ymdrechion cadwraeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Mostyn Estates, Ymddiriedolaetyh Bywyd Gwyllt Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a phreswylwyr lleol i gyflwyno cod ymddygiad morol yn llwyddiannus ar gyfer cychod hamdden sy’n lansio o lithrfeydd sy’n eiddo i’r Cyngor. Goruchwyliodd Mrs Finch-Saunders y dasg o osod arwydd addysgol ar Drwyn y Fuwch i ddiogelu cytrefi morloi lleol.
Os ydych chi’n gweld morlo wedi’i anafu, cysylltwch â’r RSPCA ar 0300 1234 999.
DIWEDD