Yn dilyn ei chydweithrediad â'r Gymdeithas Cadwraeth Forol, wedi'r prosiect glanhau traethau'r haf ar Draeth y Gogledd Llandudno yr wythnos diwethaf, mae'r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – heddiw wedi llofnodi addewid MCS UK i ddiogelu moroedd Cymru.
Fel rhywun sy'n teimlo'n angerddol ynghylch cadwraeth forol, Janet oedd hyrwyddwr rhywogaethau llamidyddion Cyswllt Amgylchedd Cymru gydol y Pumed Senedd. Fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, mae Janet wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu moroedd sy'n cael eu rheoli'n dda fel ffordd o hybu'r 'economi las.’
Wrth siarad am yr addewid, dywedodd Janet:
“O weithio i gyflwyno cod ymddygiad i ddiogelu morloi Bae Penrhyn i siarad am drafferthion ein llamidyddion, rydw i wedi bod yn lladmerydd brwd dros warchod ein cynefinoedd morol erioed.
“Dyma pam rwy'n falch o lofnodi adduned MCS UK, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu polisïau sy'n sicrhau bod pysgodfeydd yn cael eu rheoli'n gynaliadwy a bod ein Hardaloedd Morol Gwarchodedig yn cael eu gorfodi’n briodol. Mae gweithredu hefyd yn golygu troi'r llanw ar ein problem blastig, drwy gyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru gyfan a gwahardd y defnydd o blastig untro anfeddygol.
“Ond yn fwy na hynny, drwy flaenoriaethu moroedd sy'n cael eu rheoli'n dda, gallwn weithio i hybu'r economi las. Gan weithio ar y cyd â'n cymunedau arfordirol, a'r cychod pysgota sy'n creu swyddi lleol, gallwn geisio cydbwyso'n well ein datblygiad economaidd law yn llaw â rhoi lle i fyd natur a lleihau newid hinsawdd."
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS ar Bier Llandudno ac yn helpu i lanhau'r traeth.