Mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd Aberconwy - wedi ysgrifennu at y Cynghorydd Charlie McCoubrey, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, i rannu pryderon ynghylch mynediad cyfyngedig i doiledau cyhoeddus.
Er bod gwefan yr Awdurdod Lleol yn nodi bod yr holl gyfleusterau ar agor bellach, ar wahân i un yng Nghyffordd Llandudno, mae’r Aelod wedi clywed honiadau nad yw’r wybodaeth hon yn gywir. Yn wir, mae pryderon mawr wedi’u mynegi bod drysau toiledau Canolfan Ymwelwyr Pen y Gogarth ar gau o hyd.
Gan roi sylwadau ar y llythyr, dywedodd Janet:
“Er ei bod yn braf clywed bod cyfleusterau yn ailagor yn raddol, mae’n peri gofid clywed bod drysau toiledau Canolfan Ymwelwyr Pen y Gogarth ar gau o hyd. Mae’r safle yn atyniad mawr, ac yn cael ei fwynhau gan drigolion lleol ac ymwelwyr, felly mae’n rhaid gwneud rhywbeth am hyn ar unwaith.
“Rwyf hefyd wedi gofyn i’r awdurdod lleol adolygu’r ffaith nad oes toiledau cyhoeddus yng Nghwm Penmachno, Dolgarrog a Thŷ’n y Groes. Gyda busnesau ein rhanbarth yn gweithio’n galed i ddenu ymwelwyr i’n cynorthwyo i adfer yr economi, gallai’r diffyg cyfleusterau darfu ar y cynnydd posibl.
“Yn yr oes sydd ohoni, rwy’n credu nad yw’n gynaliadwy gadael i’r diffyg cyfleusterau tolied digonol effeithio ar iechyd meddwl a chorfforol pobl, ynghyd ag effeithio ar iechyd amgylcheddol ehangach y boblogaeth.
“Er yn cydnabod y pwysau ariannol ar bob awdurdod ar hyn o bryd, rwyf wedi nodi’n glir yn fy llythyr at Arweinydd y Cyngor y byddaf yn falch o godi’r mater gyda Llywodraeth Cymru pe bai adnoddau’n parhau i fod yn rhwystr i gynnydd.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
Ffoto: Gilles Desjardins ar Unsplash