Wrth holi Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru ar fater lles anifeiliaid yn dilyn cyflwyno rheoliadau ar werthu cŵn a chathod bach trydydd parti, mae Aelod Senedd Cymru dros Aberconwy - Janet Finch-Saunders AS - wedi annog cydweithio gweithredol gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol yn cyflawni eu swyddogaeth i orfodi gwerthiannau cyfreithlon.
Adlewyrchwyd y pryder hwn mewn adroddiad diweddar gan y Blue Cross hefyd a ganfu bod llawer iawn o gŵn bach yn dal i fod ar werth ar-lein, gyda dros 400 o hysbysebion yn cael eu gosod bob dydd.
Wrth siarad ar ôl ei chwestiwn, dywedodd Janet:
“Ar ôl ymgyrchu i lwyr gefnogi cyflwyno’r rheoliadau, rwy’n dal i fod yn fwy a mwy pryderus bod gorllewin gwyllt rhithwir y platfformau cyfryngau cymdeithasol modern yn mynd i danseilio’n rheoliadau ar werthu cŵn a chathod bach trydydd parti.
“Gydag ymchwiliad brawychus gan BBC Wales yr wythnos hon yn canfod bod platfformau ar-lein yn helpu i hyrwyddo masnach giaidd mewn cŵn yr addaswyd eu hedrychiad i fod yn ffasiynol, a llawer o fideos a lluniau’n cael eu rhoi ar blatfformau gyda geiriau fel “un ci bach ar ôl”, mae’n sefyll i reswm nad yw lles yr anifeiliaid anwes hyn yn brif flaenoriaeth yn ystod y gwerthu.
“Ar ôl codi’r mater hwn yn y Siambr o’r blaen, ac o ystyried y niwed hysbys i les anifeiliaid, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n ymrwymo i gynnal sgyrsiau brys gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU i sicrhau bod rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol yn cyflawni eu swyddogaeth i orfodi gwerthiannau cyfreithlon.”
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS/MS