Fel rhan o'i hymgyrch hirhoedlog i wella signalau ffôn symudol yng nghefn gwlad Aberconwy, mae Janet Finch-Saunders AS wedi croesawu'r cynnydd sy'n cael ei wneud gan y Swyddfa Gartref yn Sir Conwy.
Ar ôl ysgrifennu at yr Aelod Seneddol Matt Warman, y Gweinidog dros Seilwaith Digidol, i wybod pryd y bydd mastiau a allai wasanaethu Ysbyty Ifan a'r cyffiniau ar waith, mae wedi cael ymateb cadarnhaol gan yr Aelod Seneddol Kit Malthouse, y Gweinidog Gwladol dros Droseddu a Phlismona, lle mae'n dweud:
- mae'r Swyddfa Gartref yn adeiladu 292 o fastiau Gwasanaethau Ardal Estynedig (EAS) pellach yn ardaloedd mwyaf anghysbell a gwledig Prydain;
- Yn gyffredinol, bydd signalau ffonau symudol masnachol 4G ar gael i gwsmeriaid EE cyn gynted ag y bydd y mastiau hyn ar waith ar gyfer y rhwydwaith gwasanaethau brys;
- Bydd mastiau'r EAS hefyd ar gael i'r Rhwydwaith Gwledig a Rennir (SRN): partneriaeth rhwng y Llywodraeth a diwydiant i gynyddu'r ddarpariaeth symudol i 95% o diriogaeth y DU erbyn diwedd y rhaglen;
- Disgwylir i'r contract ar gyfer cysylltu pob un o'r 292 o fastiau EAS â'r rhwydwaith gael ei ddyfarnu yn yr Hydref.
Mae pum safle mast EAS yn cael eu datblygu a ddylai fod o fudd i Aberconwy. Wrth sôn am fuddsoddiad Llywodraeth y DU i wella cysylltedd yn Aberconwy, dywedodd Janet:
“Mae'r pandemig wedi pwysleisio effaith niweidiol cysylltedd gwael ar fusnesau a bywydau pobl.
“Mae'n warthus bod rhannau o Aberconwy heb signal symudol a 4G yn 2021, felly rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth y DU yn buddsoddi i fynd i'r afael â hyn.
“Gyda'r Swyddfa Gartref yn cyflwyno Gwasanaethau Ardal ar gyfer cymunedau gan gynnwys Penmachno, Ysbyty Ifan a Chapel Curig, rwy'n falch bod Llywodraeth y DU yn ymateb i’m galwadau i wella darpariaeth symudol yn ein hardal”.
DIWEDD
Dogfennau:
- Llythyr at yr Aelod Seneddol Matt Warman, y Gweinidog dros Seilwaith Digidol
- Llythyr gan yr Aelod Seneddol Kit Malthouse, y Gweinidog Gwladol dros Droseddu a Phlismona
Tabl: Mastiau Gwasanaethau Ardal Estynedig ar gyfer Aberconwy