Mae cyllid wedi’i sicrhau i ddechrau ar waith lliniaru llifogydd ar stadau Perthi a’r Berllan yn Llanrwst. Disgwylir cychwyn ar y gwaith yn ystod yr haf os yw cymdeithas dai yn cytuno.
Daw’r newyddion ar ôl blwyddyn o ymgyrchu gan Janet Finch-Saunders, Aelod o Senedd Cymru, am y llifogydd difrifol a welwyd ar y ddwy stad ym mis Mawrth 2019 a Chwefror eleni.
Yn rhoi sylwadau ar y datblygiad, meddai Janet:
“Ers y llifogydd difrifol yn Llanrwst a’r cyffiniau ym mis Mawrth 2019, rydw i wedi bod yn gweithio’n ddiflino i geisio lleihau’r risg i gartrefi a busnesau.
“Mae hyn yn cynnwys ceisio helpu i ddiogelu stadau Perthi a’r Berllan yn Llanrwst.
“Yn syth ar ôl y llifogydd rai misoedd yn ôl, ymwelais â nifer o breswylwyr a gweld o lygad y ffynnon y difrod echrydus a oedd wedi’i achosi.
“Ni ddylent orfod wynebu’r profiad fel hyn eto.
“Rwy’n croesawu’r ffaith bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymateb yn gadarnhaol i’r pryderon a godais am yr amser roedd yn ei gymryd i roi newidiadau positif ar waith yn dilyn digwyddiadau Mawrth 2019, a bod grant wedi ei dderbyn bellach gan Lywodraeth Cymru.
“Er nad ydw i wedi gweld y cynlluniau, rwy’n annog y gymdeithas dai berthnasol i gytuno cyn gynted â phosibl.
“Y realiti yw nad oes gennym ni syniad pryd y daw’r storm a’r tywydd mawr nesaf, felly gorau po gyntaf y bydd y gwaith yn dechrau.
“Fy mlaenoriaeth yw diogelu cartrefi a busnesau pobl, ond mae’r ffaith ei bod wedi cymryd dros flwyddyn a mwy nag un llif i gyrraedd y pwynt hwn yn dangos bod angen system fwy effeithlon ar Lywodraeth Cymru i ddyfarnu cyllid i wneud gwaith brys”.
DIWEDD
Nodiadau:
- Emergency Question: Flooding in the Conwy Valley
- Flooding: Aberconwy AM Secures Extension to Funding Deadline
- Llanrwst public meeting discusses floods
Ffotograff: Cyfarfod cyhoeddus ar 29/02/2020