Mae'r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi cyflwyno gwrthwynebiad ffurfiol i'r datblygiad arfaethedig ar Ffordd Nant-y-Gamar/Caeau Bodafon. Dyma'r datblygiad diweddaraf yn yr ymgyrch hir hon. Mae'r Aelod eisoes wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus i roi cyfle gwerthfawr i drigolion a rhanddeiliaid lleol holi'r rhai y tu ôl i'r datblygiad.
Mewn llythyr chwe thudalen cynhwysfawr a beirniadol at Bennaeth Adran Gynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, mae Janet wedi canolbwyntio ar saith gwrthwynebiad craidd:
- Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA): Mae Janet yn awgrymu bod y datblygiad sy'n cael ei ystyried yn gwrthdaro â'r LHMA, yn enwedig y cymysgedd a argymhellir o fathau o dai, a bod yr ymgais ymddangosiadol i awgrymu bod amgylchiadau lleol yn gofyn am yr amrywiad hwn yn afresymol oherwydd bod data ledled Cymru wedi'i ddefnyddio i geisio dangos yr angen yn Llandudno.
- Tirwedd: Mae'r safle'n Dirwedd Hanesyddol Gofrestredig, gyda'r Aelod yn ystyried ei bod yn debygol y gallai'r datblygiad fynd yn groes i'r Prif Argymhelliad Rheoli i 'beidio ag annog ymlediad datblygiadau trefol i'r bloc hwn o gefn gwlad,' ac y gallai wrthdaro â'r gofyniad polisi cynllunio i ddiogelu a lle'n briodol wella'r dirwedd hanesyddol.
- Ysgol y Gogarth: Mynegwyd pryderon nad yw'r datblygiad yn cyd-fynd â'r gofyniad canlynol yn DP/3, y Cynllun Datblygu Lleol: ‘Dylid ystyried yr effaith ar eiddo cyfagos.' Mae Janet yn pryderu am sŵn, aflonyddwch a niwsans posibl a allai gael eu hachosi i Lys Gogarth, ac na fydd gan y cyfleuster preswyl sy'n cynorthwyo rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein hardal amodau delfrydol mwyach i bob plentyn a pherson ifanc lwyddo.
- Priffyrdd: Codwyd pryderon difrifol gyda'r Aelod ynglŷn â'r effaith y byddai'r datblygiad yn ei chael ar Ffordd Nant-y-Gamar, a phriffyrdd eraill yn yr ardal, gan gynnwys Ffordd Fferm Bach, Ffordd Tan-y-Bryn, a Ffordd Bodafon. Awgrymwyd, yn seiliedig ar faterion sy'n ymwneud â phriffyrdd yn unig, y gallai'r datblygiad fod yn groes i nifer o bwyntiau'r polisi cynllunio.
- Parcio: Mae'r llythyr yn amlinellu bod STR/2 – Safonau Parcio, y Cynllun Datblygu Lleol, yn dweud y dylai 'darpariaeth parcio ceir fod yn unol â safonau uchafswm y Cyngor, i leihau dibyniaeth ar y car ac i hyrwyddo mathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth’. Ar ôl adolygu'r lluniadau, mae Janet o'r farn nad yw'n glir bod uchafswm o 3 lle parcio wedi'u dyrannu i 81% o'r eiddo.
- Mannau Chwarae i Blant: Er bod yr ymgeisydd wedi ceisio dangos bod amgylchiadau eithriadol y gellir eu cyfiawnhau am fethu â chadw at Bolisi CFS/11, y Cynllun Datblygu Lleol, ac felly wedi cynnig darparu cyfraniad oddi ar y safle, mae Janet yn gofyn am ystyriaeth ofalus ynghylch a yw'r gofyniad i 'amgylchiadau eithriadol y gellir eu cyfiawnhau' ar gyfer darparu swm gohiriedig yn hytrach na darpariaeth ar y safle wedi'i fodloni.
- Amgylchedd Hanesyddol: Mae GAPS wedi gwneud argymhelliad rhesymol y dylid cynnal Arolwg Geoffisegol. Mae'r ymgeisydd wedi cytuno, ac roedd disgwyl i'r arolwg ddechrau ar 7 Gorffennaf 2021. Ond nid yw canlyniad yr arolwg wedi'i gyhoeddi.
Mae'r cais am ddatblygiad preswyl newydd, sydd i'w adeiladu ar safle wrth gefn, yn cynnig adeiladu 49 o anheddau, ynghyd â mannau agored cyhoeddus cysylltiedig, mynediad i Ffordd Nant-y-Gamar, a'r seilwaith angenrheidiol ar y safle. Mae'r llythyr yn nodi bod Cyngor Tref Llandudno wedi argymell gwrthod y cais cynllunio hefyd.
Wrth sôn am ei llythyr, dywedodd Janet:
“Mae ein cymuned yn falch iawn, fel y dylai fod, o'r gofal, yr addysg a'r gefnogaeth eithriadol a ddarperir gan Ysgol y Gogarth. Fel yr amlinellaf yn fy llythyr, teimlaf fod perygl gwirioneddol y gallai'r datblygiad, gan ei fod mor agos at y cyfleuster preswyl sy'n cynorthwyo rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein hardal, effeithio ar yr amodau sy'n galluogi'r myfyrwyr ifanc hyn i lwyddo.
“Rwyf wedi bod yn glir yn gyson bod yn rhaid i unrhyw gynigion weithio mewn cytgord â'r seilwaith presennol. Mae'n hysbys yn lleol bod llawer iawn o draffig ar y priffyrdd a reolir gan yr Awdurdod Lleol a'i fod yn beryglus o bosibl, rhywbeth na allai'r datblygiad arfaethedig hwn ond ei waethygu ymhellach.
“Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddai'r ystâd yn golygu cynnydd yn y traffig sy'n defnyddio Ffordd Fferm Bach a Ffordd Tan-y-Bryn. Mae hyn yn peri pryder mawr oherwydd, drwy gymeradwyo'r datblygiad, byddai'r Awdurdod Cynllunio'n galluogi mwy o ddefnydd o briffordd sydd heb balmant ar ei hyd i gyd yn ogystal â chornel ddall.
“Ynghyd â'r diffyg parcio posibl a chyfleusterau chwarae i blant, mae amheuon difrifol bellach ynghylch manteision tybiedig y datblygiad hwn. Mae'n bryder sydd wedi llenwi fy mewnflwch e-bost yn gyson ac, yn anffodus, nid yw'r cyfarfodydd rhanddeiliaid yr wyf wedi bod yn falch o'u trefnu wedi gwneud digon i leddfu fy mhryderon.
“Mae nifer sylweddol o gynrychiolwyr etholedig Llandudno – o Gyngor y Dref i Senedd Cymru – yn gwrthwynebu i'r datblygiad hwn fynd rhagddo, gan ein harwain ni i gyd i gymryd camau digynsail i bwysleisio pryderon trigolion. Gofynnaf yn awr i Bwyllgor Cynllunio'r Awdurdod Lleol sefyll gyda ni a gwrthod caniatâd am y rhesymau a nodir yn fy llythyr.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
Ffotograff: Caeau Bodafon/Google