Mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi pwysleisio’r angen am eglurder ar ôl i ohebiaeth gan Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn rhoi’r broses statudol ar waith ar gyfer Cyffyrdd 15 ac 16 yr A5 er gwaetha’r posibilrwydd y gallai’r panel adolygu ffyrdd roi diwedd ar y gwaith.
Gan roi sylwadau am yr angen am eglurder, dywedodd Janet:
“Mae sawl Llywodraeth yng Nghymru wedi llusgo eu traed o ran symud y gwaith gwella arfaethedig hwn yn ei flaen ac mae hyn wedi gadael preswylwyr a busnesau Penmaenmawr a Llanfairfechan mewn tipyn o dwll.
“Er i Lywodraeth flaenorol Cymru gadarnhau y byddai penderfyniad ar y gwaith yn cael ei wneud yn gynnar yn 2019, mae’r dyfodol y parhau yn ansicr.
“Mae blynyddoedd lawer o ymgysylltu â’r cyhoedd wedi’u treulio yn ceisio gyrru’r prosiect yn ei flaen er mwyn cael penderfyniad. Dyna pam mae’r gymuned yn haeddu eglurder ac ymrwymiad cadarn a phendant. Does bosib na ddylai Llywodraeth Cymru fod yn rhoi’r broses statudol hon ar waith ar gyfer Cyffyrdd 15 ac 16 ar yr A55, a gwario mwy o arian trethdalwyr, dim ond i banel adolygu ffyrdd benderfynu dod â’r holl brosiect i ben.”
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng mis Mehefin a mis Awst 2018, a roddodd gyfle i breswylwyr fynegi eu barn ar naw gwahanol opsiwn ar gyfer cael gwared ar gylchfannau ar yr A55 ym Mhenmaenmawr a Llanfairfechan ar Gyffyrdd 15 ac 16. Mae’r ymateb cadarn diweddaraf i Gwestiynau Ysgrifenedig a ofynnwyd gan Mrs Finch-Saunders wedi cadarnhau y bydd Ymchwiliad Lleol Cyhoeddus pellach ar y cyffyrdd yn dechrau 21 Medi 2021.
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae copi o ymateb y Dirprwy Weinidog ynghlwm.
- Stori 2019: Start date demanded for work on Llanfairfechan and Penmaenmawr A55 junctions
- Stori 2019: Welsh Government “leaving residents in limbo” on A55 Junctions 15 and 16 Improvement Scheme
Ffoto: llun cylchfan o stori 2019.