Yn dilyn datgeliad brawychus am broblemau sy’n deillio o newid i system gwaith achos newydd o dan Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru, mae'r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy a llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros dai – Janet Finch-Saunders AS – wedi ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd i alw am weithredu brys fel y gellir parhau i weithredu ar apeliadau byw a gwaith achos.
Mae Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru yn gyfrifol bellach am ymdrin â'r holl waith achos yr oedd PINS Cymru yn ymdrin ag ef yn flaenorol, sy'n golygu bod pob apêl neu waith achos am gydsyniadau a benderfynwyd yn flaenorol gan PINS Cymru yn cael eu cyfeirio at y corff newydd erbyn hyn. Dechreuodd y gwasanaeth newydd ar 1 Hydref 2021, gyda llythyr o bedwar mis ar ddeg cyn hynny, yn rhybuddio "na fydd apelau byw neu waith achos ar gael gan naill ai’r Porth Gwaith Achos Apelau na'r Porth Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol o'r dyddiad hwnnw ymlaen.”
Erbyn hyn mae Mrs Finch-Saunders wedi cael gweld gohebiaeth gan y corff, sy'n dweud:
“Er ein bod ni'n mynd drwy'r cyfnod pontio hwn o Arolygiaeth Gynllunio Cymru i Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru, nid oes gennym fynediad llawn at ein system gwaith achos newydd, na'n dogfennau. O’r herwydd, ni allaf roi syniad o statws presennol yr apêl dan sylw. Rwy'n gwybod bod cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru a'r Arolygiaeth Gynllunio yn gweithio i'n galluogi ni i ddychwelyd i arferion gwaith arferol cyn gynted â phosibl.”
Wrth sôn am y sefyllfa a ddigwyddodd cyn ei hymyriad, dywedodd Janet:
“Mae'n ymddangos i mi fod y newid biwrocrataidd hwn yn achosi argyfwng difrifol gan nad oes gan swyddogion fynediad llawn at y system gwaith achos newydd a dogfennau, ac o’r herwydd, nid ydynt yn gallu darparu gwybodaeth hanfodol am apelau byw.
“Mae llythyr agored gan Brif Gynllunydd y Gyfarwyddiaeth Gynllunio, dyddiedig 15 Gorffennaf 2020, yn rhybuddio am y sefyllfa bosibl hon, sef ei bod yn gwbl amlwg nad oedd Llywodraeth Cymru yn barod ar gyfer y problemau technegol sydd wedi codi, ac mae hyn yn codi cwestiynau difrifol am ba mor barod oedden nhw ar gyfer newid o'r fath.
“Fel conglfaen hanfodol yn y broses gynllunio, a chydag argyfwng tai sefydledig a chydnabyddedig ledled Cymru, mae'r sefyllfa chwerthinllyd hon yn gwbl annerbyniol ac amhroffesiynol. Rhaid i'r Gweinidog drefnu’n awr i gamau brys gael eu cymryd i sicrhau bod y problemau’n cael eu datrys a bod swyddogion yn gallu parhau â'u gwaith.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS